Datganiad hygyrchedd Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr
Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i’r gwasanaeth Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr yn unig, sydd ar gael ar https://voter-authority-certificate.service.gov.uk. Mae’r gwasanaeth hwn wedi’i gynllunio i gael ei ddefnyddio gan bob unigolyn cymwys fel rhan o wefan ehangach GOV.UK ond mae datganiad hygyrchedd GOV.UK ar wahân hefyd
Defnyddio’r gwasanaeth
Caiff y gwasanaeth hwn ei redeg gan y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, sydd am sicrhau y gall cynifer o bobl â phosibl ei ddefnyddio. Mae hyn yn golygu y dylech allu gwneud y canlynol:
- newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
- chwyddo hyd at 300%, heb i’r testun orlifo oddi ar y sgrin
- cael y gwasanaeth o’r dechrau i’r diwedd gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- cael y gwasanaeth o’r dechrau i’r diwedd gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
- gwrando ar y gwasanaeth gyda darllenydd sgrin (yn cynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Roedd testun y gwasanaeth hefyd wedi’i wneud mor syml â phosibl.
Mae gan AbilityNet gyngor i wneud dyfeisiau’n haws eu defnyddio os oes gennych chi anabledd.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os byddwch yn ei chael hi’n anodd defnyddio’r gwasanaeth hwn, cysylltwch â’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol yn:
- e-bost: ierservice@elections.gov.uk
- anfon adborth ar-daith (ar gael ar bob tudalen gwasanaeth).
Efallai y bydd angen i’r gwasanaeth anfon negeseuon neu ddogfennau atoch chi a bydd MHCLG yn gofyn sut rydych chi am eu derbyn (post neu e-bost). Os oes angen fformat arall arnoch chi fel print bras, recordiad sain neu braille, cysylltwch â’ch Swyddfa Gofrestru Etholiadol (ERO) yn uniongyrchol.
Adrodd am broblemau hygyrchedd
Mae MHCLG bob amser eisiau gwella hygyrchedd y gwasanaeth. Os byddwch yn dod ar draws unrhyw broblemau sydd heb eu rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych chi’n credu nad yw gofynion hygyrchedd yn cael eu cwrdd, e-bostiwch ierservice@elections.gov.uk
Gorfodi a chwynion
Dylid anfon cwynion at y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC), sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) 2018 (Rhif 2) yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Os nad ydych chi’n hapus gyda’r ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).
Hygyrchedd a gwelliannau technegol
Mae MHCLG yn ymroddedig i wneud y gwasanaeth hwn yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) 2018 (Rhif 2).
Mae’r gwasanaeth ar hyn o bryd mewn Beta gyhoeddus, ac mae wedi cael archwiliad hygyrchedd llawn gan ddefnyddio Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) fersiwn 2.1 Roedd yn cydymffurfio’n rhannol, ac mae MHCLG wedi cyweirio’r holl sylwadau a oedd yn weddill. Bydd yn cael archwiliad arall cyn gynted â phosibl a dylai fod yn cydymffurfio’n llawn o ganlyniad i’r cyweirio hwn.
Mae MHCLG yn adolygu’n barhaus ac yn iteru i wella ymhellach, gan liniaru effaith ffenestr terfyn amser ac yn gyffredinol yn cynnal y safonau hygyrchedd uchaf posibl.
Paratoi’r datganiad
Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 8 Medi 2022 a’i adolygu diwethaf ar 28 Rhagfyr 2022.